Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA36
Teitl: Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywiad ar Atodiadau 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011
Gweithdrefn: Negyddol
Bydd y Gorchymyn drafft hwn yn weithredol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â gwarchod planhigion ac anifeiliaid penodol o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”). Mae’r Gorchymyn yn ychwanegu pedwar anifail newydd i Atodlen 5 i’r Ddeddf ac yn dileu enw dau anifail o’r rhestr o anifeiliaid i’w gwarchod. Mae’r Gorchymyn hefyd yn estyn lefel y warchodaeth a roddir i ddau anifail ac yn lleihau lefel y warchodaeth a roddir i ddau anifail. Mae’r Gorchymyn hefyd yn ychwanegu dau blanhigyn arall i’r rhestr yn Atodlen 8 ac yn dileu enw pedwar planhigyn o’r rhestr. Mae Atodlen 5 yn rhestru enwau’r anifeiliaid a warchodir o dan adran 9 o’r Ddeddf. Mae Atodlen 8 yn rhestru enwau’r planhigion a warchodir o dan adran 13 o’r Ddeddf.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
1. Ni wnaethpwyd y Rheoliadau hyn yn ddwyieithog.
[21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-
1. Gellid bod wedi gwneud y Gorchymyn hwn yng Nghymru gan Weinidogion Cymru ac felly ei wneud yn ddwyieithog.
[21.3((ii) ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb
i’r Cynulliad].
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Awst 2011
Ymateb y Llywodraeth
Ymatebodd y Llywodraeth fel a ganlyn:
Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlenni 5 ac 8) (Cymru a Lloegr) 2011
Ymateb Technegol
Mae’r Gorchymyn cyfansawdd hwn yn diwygio Atodlenni 5 ac 8 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Mae’r Gorchymyn yn ychwanegu pedwar anifail newydd at Atodlen 5 ac yn tynnu dau enw oddi ar y rhestr warchodaeth. Yn ogystal, mae’r Gorchymyn estyn gwarchodaeth dau anifail ac yn gostwng y lefel o warchodaeth a roddir i ddau anifail. Hefyd, mae’r Gorchymyn yn ychwanegu cofnodion am ddau blanhigyn newydd at Atodlen 8 ac yn tynnu 4 cofnod am blanhigion sydd yno’n barod. Mae Atodlen 5 yn rhestru’r anifeiliaid a warchodir o dan adran 9 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ac mae Atodlen 8 yn rhestru planhigion a warchodir o dan adran 13 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad.
Ymateb ar y Rhinweddau
Gwnaed y Gorchymyn cyfansawdd ar ôl i gyrff cadwraeth Prydain Fawr wneud sylwadau, drwy ‘r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur. Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a Lloegr ac yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol gwneud y offeryn hwn yn ddwyieithog